Dr Elaine Canning

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Arweinyddiaeth a Rheoli Addysg Uwch

Pennaeth Prosiectau Arbennig, Prifysgol Abertawe.

Mae Dr Elaine Canning, Pennaeth Prosiectau Arbennig ym Mhrifysgol Abertawe, yn llenor ac yn olygydd, a hi yw’r sbardun sy’n gyfrifol am Wobr Dylan Thomas a Gwobr Stori Fer Genedlaethol Rhys Davies ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies. Yn gysylltiedig â sefydliadau’r celfyddydau a diwylliant ym mhedwar ban byd, cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Sandstone City, gan Aderyn yn 2022.