Dr Anne Freeman
Cyd-sylfaenydd a chyd-arweinydd Hwb Strôc Cymru; Meddyg Ymgynghorol wedi Ymddeol, Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Yn hanesyddol, roedd meddygaeth geriatreg a strôc yn arbenigeddau a oedd yn cael eu hanwybyddu. Ymatebodd Dr Freeman i’r her o newid y ddelwedd hon, gan ddefnyddio ei rolau arweinyddol ledled y DU i ddatblygu newidiadau cynnar mewn gofal clinigol yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, aeth ati i greu addysg feddygol strwythuredig i israddedigion, a fabwysiadwyd yn ddiweddarach ym mhob Ysbyty Cyffredinol Dosbarth yng Nghymru, a datblygodd addysg amlddisgyblaethol a meddygol ôl-raddedig drwy gydysgrifennu wyth llyfr ar gyfer meddygon iau yn y DU a thramor. Cyd-sylfaenodd Hwb Strôc Cymru hefyd, ac mae ei gwaith ym myd addysg ac ymchwil yn parhau.