Yr Athro Faron Moller
FBCS FIMA FLSW
Athro Cyfrifiadureg, Prifysgol Abertawe.
Mae Faron Moller yn Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe yn y Grŵp Cyfrifiadureg Ddamcaniaethol. Mae hefyd yn Bennaeth Sefydlol ar ddau Grŵp Ymchwil: Dilysu Rheilffordd Abertawe; a Sylfeini Addysgol, Hanesyddol ac Athronyddol Cyfrifiadureg.
Mae Faron hefyd yn Gyfarwyddwr Technocamps, sef rhaglen allgymorth i ysgolion a chymunedau ledled Cymru sydd ym Mhrifysgol Abertawe a chyda hybiau ym mhob prifysgol yng Nghymru. Mae hefyd yn bennaeth ar y Sefydliad Codio cenedlaethol yng Nghymru, sy’n cynrychioli cangen ymgysylltu â busnesau Technocamps.