Professor Gordon Foxall
Athro Ymchwil Nodedig, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Foxall yn Athro Ymchwil Nodedig yn Ysgol Busnes Caerdydd, lle mae’n arwain ymchwil ar ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr. Defnyddir ei waith ar economeg ymddygiadol a seicoleg ymddygiadol i archwilio ymddygiad marchnatwyr a defnyddwyr. Ymhlith ei lyfrau diweddar mae The Theory of the Marketing Firm a The Continuum of Consumer Choice. Mae’n Gymrawd gyda’r Academi Gwyddorau Cymdeithasol, Cymdeithas Seicolegol Prydain, ac Academi Rheolaeth Prydain.