Professor Hasmukh Shah
Meddyg Teulu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Mae’r Athro Shah wedi bod gweithio yn y GIG ers hanner can mlynedd. Mae’n Athro Gwadd ym Mhrifysgol De Cymru, yn arweinydd addysg meddygon teulu ac yn gyn-aelod anweithredol o fwrdd iechyd lleol Rhondda Cynon Taf. Bu’n ysgrifennydd Cymdeithas Brydeinig y Meddygon o Darddiad Indiaidd yng Nghymru, roedd yn aelod o Grŵp Cynghori BAME Covid-19 y Prif Weinidog, ac mae wedi bod yn ymddiriedolwr y ganolfan gymunedol Hindŵaidd, Race Council Cymru, elusen Vale for Africa ac elusen Calon Hearts. Derbyniodd yr Athro Shah Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2018 a gwobr gwasanaeth oes ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yng Nghynhadledd Ryngwladol Girmit 2024 yng Nghaerdydd.