Yr Athro Hazel V. Carby

Etholwyd: 2021

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Astudiaethau Affricanaidd Americanaidd, Astudiaethau Americanaidd

Charles C. & Dorathea S. Dilley Athro Emeritws Astudiaethau Affricanaidd Americanaidd ac Astudiaethau Americanaidd, Prifysgol Iâl

Mae’r Athro Hazel V. Carby yn arloeswr ym meysydd ffeministiaeth ddu ac fel ysgolhaig blaenllaw mewn llenyddiaeth a diwylliant diasporig du. Ymhlith anrhydeddau eraill, dyfarnwyd Medal Jay B. Hubbell Cymdeithas Astudiaethau Americanaidd iddi am gyflawniad gydol oes mewn Llenyddiaeth Americanaidd, a Gwobr Nayef Al-Rodhan yr Academi Brydeinig am Ddealltwriaeth Ddiwylliannol Fyd-eang.