Professor Huw Davies
Athro Geodynameg, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Davies wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’n dealltwriaeth o ddeinameg fewnol y ddaear. Mae hyn yn cynnwys datblygu modelau i ddeall ffurfiant a mudiant magma pan fydd platiau tectonig yn llithro’r naill dros y llall, yn ogystal â dynameg a fflwcs gwres y fantell (y rhan rhwng cramen a chraidd y ddaear). Mae’n fwyaf adnabyddus am ddatblygu’r cysyniad o slabiau’n torri i ffwrdd, lle bo’r lithosffer cefnforol yn torri’n rhydd oddi wrth y lithosffer cyfandirol yn ystod gwrthdrawiad cyfandirol. Mae hwn yn gan sylfaenol mewn tectoneg platiau, yn gysyniad a ddefnyddir yn eang bellach er mwyn deall parthau gwrthdaro’r ddaear.