Professor Wisia Furmaniak
Athro Gwadd er Anrhydedd, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Furmaniak yn gyd-ddyfeisiwr ar 14 o batentau – dyfeisiadau a ddefnyddir mewn citiau diagnostig mewn labordai clinigol ledled y byd. Mae hi wedi datblygu dulliau diagnostig newydd ar gyfer y clefyd awto-imiwn mwyaf cyffredin (clefyd Graves); mae hyn wedi arwain at newidiadau i ganllawiau a gofal gwell i gleifion. Mae hi wedi datblygu dulliau sy’n profi nifer fawr o samplau ar yr un pryd ar gyfer diabetes math 1. Mae hyn o gymorth i adnabod unigolion sydd mewn perygl o gael y clefyd a allai elwa ar strategaethau atal. Mae’r Athro Furmaniak hefyd wedi dyfeisio’r driniaeth newydd gyntaf mewn 70 mlynedd ar gyfer clefyd Graves, yn ogystal â thriniaethau ar gyfer clefyd thyroid y llygaid a chanser y thyroid.