Professor John G Mayberry

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Meddygaeth

Gastroenterolegydd Ymgynghorol,
Ysbyty Princess Elizabeth Guernsey

Mae’r Athro Mayberry yn gweithio ar nodi maint y risg o ganser mewn colitis briwiol, gan ei gymharu â’r risg yng nghlefyd Crohn. Mae ei ymchwil wedi arwain at leihau’r risg o ganser mewn colitis i lefelau normal drwy ddefnyddio mesalazine drwy’r geg. Mae wedi ymchwilio i’r risg uchel o glefyd llid y coluddyn ymhlith mudwyr o Dde Asia, lle mae’r risg honno’n uwch fyth ymhlith eu plant. Datgelodd hyn lefel y gwahaniaethu wrth ddarparu gofal i fudwyr, fel cyfyngu ar fynediad at therapïau drud. Achosodd hyn hefyd i ymarferwyr ddod i fwy o gysylltiad â thechnegau newydd wrth fynd drwy eu proses ddysgu eu hunain.

 

yn ôl i'r brig