Yr Athro Jonathan Gillard

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Ystadegau a gwyddor data

Athro Ystadegau a Gwyddor Data; Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Mathemateg, Prifysgol Caerdydd

Mae gwaith yr Athro Gillard yn rhychwantu ystadegau, optimeiddio ac ymchwil weithredol. Mae wedi datblygu dulliau sy’n gwella penderfyniadau yn y byd go iawn ym maes gofal iechyd, llywodraeth a diwydiant. Mae wedi arwain prosiectau mawr cydweithredol â’r GIG ac y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ef yw Cadeirydd Academaidd Crwsibl Cymru a phennaeth cyntaf Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol ym Mhrifysgol Caerdydd.

 

yn ôl i'r brig