Yr Athro Judy Hutchings
B.Sc., M.A., Dip.Clin.Psych., D.Clin.Psych., FBPS, FBABCP, OBE, FLSW
Athro mewn Seicoleg, Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae’r Athro Hutchings wedi gweithio yng Nghymru fel seicolegydd clinigol plant i’r GIG ers 1976, ac ers 1988, fel ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi’n datblygu, yn cyflwyno a gwerthuso rhaglenni rhianta a rhaglenni yn yr ysgol i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae ei hymchwil wedi cyfrannu at bolisi ymyrraeth gynnar yng Nghymru, y DU ac yng ngwledydd De’r Byd. Mae hi wedi dal grantiau o £5m+, wedi goruchwylio llawer o fyfyrwyr ôl-radd ac wedi cyhoeddi’n helaeth ar gyflwyno ymyriadau effeithiol i rieni ac ysgolion.