Hon Julia Gillard

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd:

Pwnc/ Pynciau Arbenigol:

Mae Julia Gillard yn gyn-wleidydd yn Awstralia a fu’n gwasanaethu fel Prif Weinidog Awstralia ac arweinydd y Blaid Lafur rhwng 2010 a 2013. Hi oedd dirprwy brif weinidog Awstralia yng ngweinyddiaeth Kevin Rudd rhwng 2007 a 2010, a hi yw’r fenyw gyntaf a’r unig fenyw yn hanes Awstralia i ddal y naill swydd neu’r llall. Bydd ei phrofiad a’i phroffil fel gwleidydd ac academydd cyhoeddus blaenllaw o fudd mawr i’r Gymdeithas Ddysgedig.
Ganed Ms Gillard yn Y Barri, de Cymru, yn 1961 ac ymfudodd gyda’i theulu yn 1966 i Adelaide yn Ne Awstralia. Graddiodd o Brifysgol Melbourne gyda Baglor yn y Gyfraith ym 1986 a Baglor yn y Celfyddydau ym 1989. Ar ôl graddio, daeth Ms Gillard yn bartner yng nghwmni cyfreithiol Slater a Gordon ym 1990, lle bu’n arbenigo mewn cyfraith ddiwydiannol, nes iddi gael ei hethol i’r senedd, ar gyfer sedd talaith Victoria Lalor, yn 1998.
Yn dilyn ei hymddiswyddiad fel Prif Weinidog yn 2013, mae Ms Gillard wedi bod yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Adelaide, Uwch Gymrawd yn Sefydliad Brookings, ac yn Gadeirydd y Bartneriaeth Fyd-eang dros Addysg. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Ymddiriedolaeth Wellcome. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, My Story, yn 2014.

 

yn ôl i'r brig