Dr Kathy Seddon

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Lleisiau cleifion mewn gofal lliniarol

Partner Ymchwil Canser Cymru, Prifysgol Caerdydd a Chwumni Anrhydeddus Lifrai Cymru

Fel Cadeirydd cangen Gymreig Cymrodoriaeth Churchill, anogodd Dr Seddon y Cymrodyr i adeiladu ar eu cymrodoriaethau a helpu eraill i ymgeisio. Fel Meistr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, cychwynnodd swydd newydd elusennwr i roi cymorth i rai sydd mewn angen. Sefydlodd gynllun ‘TaffLab’ Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau i helpu entrepreneuriaid ifanc yng Nghymoedd Cymru. Ar hyn o bryd mae hi’n arwain Cynnwys y Cyhoedd a Chleifion (PPI) mewn prosiect traws-Ewropeaidd, sy’n galluogi penderfyniadau ar y cyd ar gyfer cleifion gofal lliniarol.

 

yn ôl i'r brig