Professor Ken Peattie
Athro Marchnata a Strategaeth, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Peattie yn arbenigo mewn cynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Roedd yn allweddol o ran sicrhau bod Canolfan Cysylltiadau Busnes, Atebolrwydd, Cynaliadwyedd a Chymdeithas (BRASS) yn datblygu i fod y Ganolfan Ymchwil gyntaf yng Nghymru i gael ei chyllido gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, gan ddenu cyfanswm o tua £13m o gyllid ymchwil. Mae wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i bolisi ac ymarfer Cymru a’r DU, ac wedi dal rolau arweinyddol ym Mhrifysgol Caerdydd a’i Hysgol Busnes yn barhaus rhwng 2001-2024.