Professor Kerry Howell
Athro Llywodraethu, Prifysgol Northumbria
Mae’r Athro Howell yn arbenigwr mewn llywodraethu, arweinyddiaeth, polisi’r UE, a methodoleg ymchwil. Mae wedi ysgrifennu a golygu nifer o destunau, gan gynnwys gweithiau ar lywodraethu corfforaethol a diwylliant arwain. Mae’n dysgu am athroniaeth ymchwil, methodoleg, llywodraethu a moeseg. Mae’r Athro Howell hefyd wedi dal rolau blaenllaw mewn cyrff proffesiynol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae wedi rheoli prosiectau ymgynghori a phrosiectau ymchwil wedi’u hariannu, ac wedi rhoi cyngor i sefydliadau Addysg Uwch ar ddatblygu a gweithredu strategaethau trefniadol.