Dr Lyn Jones
Phrif Ymchwilydd, Sefydliad Canser Dana-Farber/Ysgol Feddygol Harvard, Boston, UDA
Mae gan Lyn Jones dros chwarter canrif o brofiad fel cemegydd meddyginiaethol a biolegydd cemegol. Mae wedi gweithio yn y byd academaidd ac mewn diwydiant, lle mae wedi cyfrannu’n sylweddol at ddarganfod cyffuriau. Mae ei ymchwil yn nodi’r elfennau protein y gall cyffuriau eu targedu, a’r defnydd o therapïau newydd, yn enwedig cyffuriau sy’n defnyddio moleciwlau bach i dargedu proteinau. Mae ei ymchwil hynod ddylanwadol a ddyfynnir yn helaeth wedi cael cydnabyddiaeth drwy wobrau rhyngwladol, drwy wahoddiadau i roi darlithoedd, a thrwy gael ei ethol yn gymrawd gyda chymdeithasau gwyddonol.