Dr Mahaboob Basha

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Gwasanaeth Cyhoeddus

Rheolwr Cysylltiadau Allanol ac Ymgysylltu, Prifysgol Abertawe

Yn ei rôl fel rheolwr cysylltiadau allanol ym Mhrifysgol Abertawe, mae Dr Basha wedi ehangu rhwydwaith byd-eang y brifysgol ac wedi meithrin cydweithrediadau proffil uchel, yn enwedig ar draws y Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell. Sefydlodd Glwb Ieuenctid Sgeti a Lolfa De Sgeti i gefnogi cymunedau BAME, gan ymgysylltu â thros 120 o bobl ifanc a 50 o bobl oedrannus. Mae Dr Basha yn eiriolwr cydnabyddedig dros gydraddoldeb hiliol ac amrywiaeth, wedi’i anrhydeddu â Medal yr Ymerodraeth Brydeinig, Gwobr Dydd Gŵyl Dewi, a Gwobr Merri Williams am ei gyfraniadau i wasanaeth cyhoeddus a chydlyniant cymunedol.

 

yn ôl i'r brig