Dr Manon Antoniazzi

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol:

Clerc a Phrif Weithredwr, Senedd Cymru

Dr Antoniazzi yw Clerc a Phrif Weithredwr Senedd Cymru, a oruchwyliodd y broses o drosi’r Cynulliad yn Senedd, a gweithredu deddfwriaeth diwygio. Bu gynt yn Gyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru, ac mae hi wedi dal rolau polisi a gweithredol dylanwadol o fewn y BBC ac S4C, yn ogystal â’r Osgordd Frenhinol fel uwch gynghorydd i’r Brenin Siarl III pan oedd yn Dywysog Cymru. Mae ei gyrfa anweithredol wedi rhychwantu Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, y Royal Shakespeare Company, Ymddiriedolaeth y Tywysog, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur.

 

yn ôl i'r brig