Yr Athro Marianne van den Brie
BSc, MSc, PhD, FLSW
Athro Meddygaeth Seicolegol, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro van den Bree yn ymchwilio i’r modd y mae genynnau a phrofiadau bywyd yn dylanwadu ar iechyd meddwl o ddechrau hyd ddiwedd ein hoes. Mae hyn yn cynnwys yr ymadwaith rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Mae hi’n astudio grwpiau mawr o bobl, gan gynnwys rhai â mwtaniadau genetig prin sy’n cynyddu’r risg o anawsterau dysgu ac iechyd meddwl. Mae’r Athro van den Bree yn cyfuno astudiaethau clinigol â delweddau o’r ymennydd, geneteg ac ymchwil labordy. Mae hi’n cydweithio ag arbenigwyr ar draws meysydd ac yn gweithio’n agos gyda chymunedau a rhanddeiliaid i sicrhau bod ei chanfyddiadau o fudd i iechyd a lles yn y byd go iawn.