Yr Athro Mary Heimann
BA (Vassar) MA, DPhil (Oxon), FRHIstS, FLSW
Cadair mewn Hanes Modern, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Heimann yn hanesydd, yn awdur ac arbenigwr blaenllaw ar Gatholigiaeth Fictoraidd, Tsiecoslofacia, a chysylltiadau Cristnogol-Gomiwnyddol y Rhyfel Oer. Mae hi’n fwyaf adnabyddus fel awdur Catholic Devotion in Victorian England (Oxford University Press) a Czechoslovakia: The State that Failed (Yale University Press). Mae hi’n cyfarwyddo Canolfan Ymchwil Canol a Dwyrain Ewrop yng Nghaerdydd ac mae cyrff ariannu rhyngwladol, cyhoeddwyr academaidd, y wasg, y cyfryngau, prifysgolion, a diplomyddion a llunwyr polisi Canol Ewrop, gan gynnwys Partneriaeth dros Heddwch NATO, yn holi’n eang am ei barn arbenigol.