Professor Michael Fitzpatrick

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Gwyddoniaeth Deunyddiau

Cadair Sylfaen Gofrestr Lloyd’s mewn Peirianneg Deunyddiau a Pherfformiad Systemau, Prifysgol Coventry

Peiriannydd deunyddiau yw’r Athro Fitzpatrick sy’n gweithio ym maes cyfanrwydd strwythurol ar gyfer systemau lle mae diogelwch yn dyngedfennol. Mae’n dylunio ac yn cymhwyso dulliau arbrofol datblygedig ar briodweddau deunyddiau, gan gynnwys cyfleusterau graddfa fawr yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae ei ymchwil wedi arwain at ddatblygiadau mewn asesiadau oes a gwelliannau dylunio yn y sectorau awyrofod ac ynni niwclear. Mae hefyd wedi gwneud cyfraniadau tyngedfennol i raglenni ymestyn oes ar gyfer Airbus ac Awyrlu’r UD.

 

yn ôl i'r brig