Professor Michael Morgan
Athro Niwrowyddoniaeth Weledol, Prifysgol Dinas Llundain
Mae dau lyfr yr Athro Morgan, Molyneux’s Question a The Space between Our Ears yn archwilio hanes syniadau sy’n gysylltiedig a’r modd y mae’r ymennydd yn defnyddio’r wybodaeth o’r ddelwedd yn y llygad i adeiladu’r canfyddiad o fyd tri dimensiwn, a ninnau’n weithredwyr o fewn y byd hwnnw. Yn ei waith arbrofol ei hun mae wedi canolbwyntio ar y modd rydym yn ail-greu safle, symudiad a lliw gwrthrychau o’r delweddau ohonynt.