Yr Athro Neil Loader

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: archaeoleg sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, Daearyddiaeth Ffisegol

Athro Daearyddiaeth Ffisegol, Prifysgol Abertawe

Mae’r Athro Loader yn ddaearyddwr ffisegol sydd â phrofiad o ddatblygu a chymhwyso technegau isotop sefydlog ar gyfer geocronoleg ac astudio newid paleoamgylcheddol. Mae’n arbenigo mewn holi archifau naturiol, fel cylchoedd coed, mawn a phaill. Mae’n defnyddio’r rhain i ail-greu newid hinsoddol y tu hwnt i gyfnod arsylwadau offerynnau, ac i astudio ymateb a gwydnwch ecosystemau coedwigoedd i newid amgylcheddol cyfoes.

 

yn ôl i'r brig