Professor Oliver Williams

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Gwyddoniaeth Deunyddiau

Athro Ffiseg Arbrofol, Prifysgol Caerdydd

Ffocws ymchwil yr Athro William yw twf a thechnoleg diemwntiau. Mae wedi datblygu’r gallu i gyfuno diemwntiau â deunyddiau eraill ar gyfer dyfeisiau amledd uchel, rheolaeth thermol ar led-ddargludyddion cyfansawdd, a chynhyrchu nanoronynnau diemwnt ar gyfer cymwysiadau cwantwm. Mae’r gwaith hwn wedi arwain at saith patent rhyngwladol a thros 200 o gyhoeddiadau.

 

yn ôl i'r brig