Dr Peter Wakelin
Awdur annibynnol, curadur ac ymgynghorydd
Mae Dr Wakelin yn awdur, curadur ac ymgynghorydd annibynnol sy’n arbenigo mewn celf a’r dreftadaeth adeiledig. Bu gynt yn Gyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yn Amgueddfa Cymru ac yn Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae ei lyfrau’n cynnwys arweinlyfrau swyddogol i safleoedd Treftadaeth y Byd Blaenafon a Phontcysyllte, hanes a dylanwad artistiaid sy’n ffoaduriaid ym Mhrydain, a monograffau ar sawl artist pwysig o Gymru.