Yr Athro Phil Smith

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: addysg/asesu meddygol, epilepsi, Niwroleg

Niwrolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Smith wedi cynhyrchu tua 175 o bapurau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid, tri llyfr, ac ef oedd prif awdur y treialon ‘Cyffuriau Gwrth-epilepsi Safonol a Newydd’, a siapiodd ganllawiau a phresgripsiynau NICE ar gyfer epilepsi. Mae wedi cyflawni hyn oll er gwaethaf ei ymrwymiadau fel gweithiwr amser llawn i’r GIG. Mae ei ymchwil i eneteg, drwy gonsortia rhyngwladol, wedi arwain at gyhoeddiadau yn Nature Genetics a Science. Bu’n cadeirio ‘Canllaw Clefyd Falf y Galon’ NICE, gan drawsnewid llwybrau’r GIG. Ehangodd yr Athro Smith hefyd gyrhaeddiad byd-eang Practical Neurology, fel ei Brif Gyd-olygydd, ac mae ei arweinyddiaeth ym maes asesu yn cynnwys ‘Consortiwm Profion Cynnydd y DU’.

 

yn ôl i'r brig