Yr Athro Phillipp Schofield
Athro Hanes Canoloesol a Phennaeth yr Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth
Astudiodd Phillipp Schofield ar gyfer ei radd gyntaf mewn Hanes Hynafol a Chanoloesol yng Ngholeg Prifysgol Llundain ym 1986 cyn cwblhau ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen (Coleg Wadham) ym 1992, dan oruchwyliaeth Miss Barbara Harvey. Hyfforddodd hefyd fel cyfreithiwr, a bu’n gweithio’n am gyfnod mewn cwmni cyfreithiol yn y City. Ym 1993, dychwelodd i Rydychen i weithio fel ymchwilydd yn y Wellcome Unit for the History of Medicine. Ym 1996, symudodd i Brifysgol Caergrawnt, gan ymuno â’r grŵp Cambridge Group for the History of Population and Social Structure ym 1996. Dechreuodd ei swydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1998. Bu’n Bennaeth Adran yn Aberystwyth rhwng 2002 a 2012, ac eto rhwng 2018 a 2023. Cafodd Gymrodoriaeth Ymchwil Fawr Leverhulme rhwng 2012 a 2016, ac yn ddiweddar, cwblhaodd gyfnod o dair blynedd fel Llywydd y Gymdeithas Hanes Economaidd (2022–2025).
Fel hanesydd economi Lloegr yn y canol oesoedd, gyda ffocws arbennig ar y werin ganoloesol, mae ymchwil Phillipp Schofield yn canolbwyntio ar gymdeithas bentrefol, y cyfnewid economaidd o fewn y gymdeithas honno ac, yn benodol, credyd a dyled. Mae’n gwneud gwaith sy’n gysylltiedig â’i Gymrodoriaeth Ymchwil Fawr Leverhulme flaenorol ar y Newyn Mawr yn Lloegr ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ar hyn o bryd, mae hefyd yn ysgrifennu ymchwil sydd yn cael ei ariannu gan yr AHRC ar ymgyfreitha mewn llysoedd maenorol (AHRC AH/D502713/1, co-I) ar gyfer cyfrol i’w chyhoeddi gan y Selden Society (ar y cyd â Chris Briggs). Yn ddiweddar, mae wedi cwblhau cyfrolau ar gyfer Gwasg Prifysgol Manceinion – Peasants and Historians: the historiography of the medieval English peasantry – a chyda’r Athro Wendy Childs (Leeds) – The Reign of Edward II. Roedd Phillipp Schofield yn gyd-olygydd y cylchgrawn Continuity and Change rhwng 1999 a 2011, ac yn gyd-olygydd The Economic History Review rhwng 2011 a 2017.