Professor Rhiannon Owen
PhD MSc BSc FHEA FLSW
Athro Ystadegau, Prifysgol Abertawe
Mae’r Athro Owen yn fethodolegydd ystadegol cymhwysol a gydnabyddir yn rhyngwladol, y mae ei hymchwil wedi llywio polisi ac ymarfer gofal iechyd. Mae ganddi brofiad helaeth o wneud penderfyniadau gofal iechyd cenedlaethol ar gyfer y GIG fel aelod hirsefydlog o’r Pwyllgor Arfarnu Technoleg ar gyfer Sefydliad Cenedlaethol y DU dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Mae gan yr Athro Owen brofiad helaeth o gydweithio ar draws sectorau, gan gynnwys gwaith fel ymgynghorydd. Mae hi wedi darparu cyngor methodolegol a strategol i’r diwydiant fferyllol byd-eang ac asiantaethau asesu technoleg iechyd rhyngwladol.