Dr Rhodri Jones

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol:

Pennaeth Adran Paladrau CERN, Y Swistir

Dr Jones yw Pennaeth yr Adran Belydrau yn CERN, ac mae’n gyfrifol am weithredu cyfres CERN o gyflymyddion. Mae’n gweithio ar gysyniad a dyluniad cyflymyddion ffiseg ronynnol y dyfodol, a hefyd ar fesuriadau union a’r roboteg er mwyn rheoli’r cyflymyddion hynny. Mae Dr Jones wedi cyflawni sawl rôl yn CERN. Mae wedi rheoli seilweithiau mawr, wedi ymchwilio i dechnegau arloesol ar gyfer disgrifio pelydrau gronynnol, wedi meithrin cydweithrediad mewn technoleg cyflymu, ac wedi hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ffisegwyr a pheirianwyr cyflymu.

 

yn ôl i'r brig