Yr Athro Richard Thomas
FLSW
Pennaeth Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Prifysgol Abertawe
Fel hwyr-ddyfodiad i Addysg Uwch, mae’r Athro Thomas wedi ymgorffori ei brofiad o’r sector preifat yn ei waith fel ysgolhaig. Ym Mhrifysgol Abertawe, mae wedi parhau i fod yn ymchwilydd brwd er ei fod yn dal swyddi arweinyddiaeth uwch allweddol. Mewn cyfnod heriol i’r sector, mae’n llunio polisi, gan arloesi a datblygu talent fel bod y staff a’r myfyrwyr, y naill a’r llall, yn gallu ffynnu mewn amgylchedd gwaith cadarnhaol a blaengar.