Yr Athro Sarah Davies
FHEA, FRGS FLSW
Yr Athro a Pennaeth Adran (Daearyddiaeth), Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth
Mae ymchwil yr Athro Davies yn canolbwyntio ar ail-greu newid hinsoddol ac amgylcheddol dros amrywiaeth o raddfeydd amser, gan integreiddio archifau gwaddodol a dogfennol. Mae hi’n arbennig o awyddus i weld sut mae pobl, yr hinsawdd a’r amgylchedd yn rhyngweithio â’i gilydd. Mae ei hymchwil gyfredol yn cynnwys ymchwilio i effeithiau newid hinsawdd ac eithafion tywydd ar dirweddau a threftadaeth yr arfordir.