Dr Sarah Shinton
FLSW
Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Datblygu Cymrodyr Arweinwyr y Dyfodol UKRI, Prifysgol Caeredin
Dechreuodd gyrfa Dr Shinton yng Nghymru, mewn ymchwil, ond mae hi wedi gweithio ledled y DU ac Ewrop yn datblygu cenedlaethau o ymchwilwyr. Mae hi’n arwain mentrau strategol cenedlaethol i ddatblygu arweinwyr ymchwil gwell, diwylliannau ymchwil mwy cynhwysol a chreu cyfleoedd i grwpiau wedi’u tangynrychioli. Mae hi wedi sicrhau miliynau o bunnoedd o gyllid ymchwil ac ymgynghori, ac wedi ymrwymo’n arbennig i greu cyfleoedd ar gyfer galluogwyr ymchwil, a chydnabyddiaeth o’r rheiny.