Professor Sashin Ahuja

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Meddygaeth

Llawfeddyg Sbinol Orthopedig Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Mae’r Athro Ahuja yn llawfeddyg orthopedig ymgynghorol ar gyfer yr asgwrn cefn ac yn Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi bod yn weithgar mewn gwyddoniaeth ac ymchwil glinigol gan lwyddo i ennill amryw o grantiau. Ar hyn o bryd mae’n gyd-brif ymchwilydd ar gyfer treial ymchwil aml-ganolfan mawr y mae’r Sefydliad Cenedlaethol Gofal Iechyd ac Ymchwil wedi dyfarnu £2 miliwn o gyllid iddo. Mae’r Athro Ahuja wedi gwasanaethu fel Llywydd Cymdeithas Llawfeddygon Asgwrn Cefn Prydain ac ef yw Cadeirydd presennol bwrdd Cymdeithas Asgwrn y Cefn y DU.

 

yn ôl i'r brig