Sîan Williams

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Diwylliant Cymru

Pennaeth Ymgysylltu a Churadu Casgliadau Diwylliannol, Prifysgol Abertawe

Mae Sian Williams yn uwch arweinydd mewn llyfrgellyddiaeth ac archifau, a ffocws ei gyrfa yw ymgysylltu â’r cyhoedd. Datblygodd Lyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe fel canolfan sy’n ennyn parch rhyngwladol am ymchwil a dysgu ym maes hanes llafur; mae ganddi gysylltiadau cryf ag addysg oedolion a sefydliadau cymunedol yn ne Cymru. Mae hi bellach hefyd yn arwain Archifau Richard Burton, y Ganolfan Eifftaidd, y Casgliad Hanes Cyfrifiadura, a chasgliad celf y brifysgol yn Abertawe. Mae’n hyrwyddo’r rhain fel casgliadau ymchwil ac fel adnoddau addysgu a chymunedol, gyda ffocws cryf ar gynulleidfaoedd sydd wedi bod yn anodd eu cyrraedd ac wedi’u hallgáu yn y gorffennol.

 

yn ôl i'r brig