Yr Athro Simon Creer
FLSW
Athro mewn Ecoleg Foleciwlaidd, Prifysgol Bangor
Mae’r Athro Creer yn arweinydd byd-eang o ran defnyddio dilyniannu trwybwn uchel i asesu bioamrywiaeth ar draws y goeden fywyd drwy bïomau amrywiol. Mae ganddo lefel uchel o ddealltwriaeth o ddynameg gofod-amser DNA amgylcheddol, yn deillio o fioamrywiaeth amgylcheddau morol, morydol, dŵr croyw, daearol a’r awyr, gyda rhagor o ddealltwriaeth yn deillio o beillwyr a rhyngweithiadau troffig. Ei nod yw deall priodweddau sy’n dod i’r amlwg sy’n ymwneud ag iechyd amgylcheddol a dynol.