Dr Sonali Dasgupta
PhD, FRCP, PG Dip, FLSW
Ymgynghorydd Oncoleg Meddygol, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Dr Dasgupta yw arweinydd Tîm Canser Cenedlaethol Cymru ar gyfer canser o darddiad anhysbys (CUP). Mae hi hefyd yn is-gadeirydd ar gyfer grŵp ymchwil CUP y DU ac yn sylfaenydd gwasanaeth CUP rhanbarthol De-ddwyrain Cymru. Roedd Dr Dasgupta ymhlith y cyntaf i adnabod CUP fel grŵp o safleoedd canser unigol, ac i gyflwyno proffiliau moleciwlaidd ar gyfer CUP fel safon gofal o fewn y GIG. Mae ganddi PhD Ymchwil Canser y DU mewn canser y colon a’r rhefrwm ac mae’n arwain therapïau systemig, treialon clinigol, addysg, mentora a hyfforddiant.