Professor Terry Jones
Athro Gwadd, Prifysgol California, Davis, UDA
Sefydlodd yr Athro Jones raglen gyntaf y DU mewn tomograffeg allyriadau positron (PET) yn 1979. Datblygodd ddulliau PET datblygedig, gan gynnwys dylunio sganwyr, a’r moddau, y protocolau a’r dadansoddiadau o gasgliadau data PET dynol. Mae’r Athro Jones wedi meithrin ymchwil glinigol gan ddefnyddio PET mewn niwroleg, seiciatreg, oncoleg, cardioleg a meddygaeth ysgyfeiniol. Mae’r gwaith hwn wedi cynhyrchu gwybodaeth newydd am glefydau dynol o bwys. Bu’n cydweithio â Phrifysgol Davis California, gan gynhyrchu sganiwr PET corff cyfan cyntaf y byd, technoleg sydd bellach yn cael ei mabwysiadu’n fwy eang.