Professor Tom Rippeth
Athro Eigioneg Ffisegol, Prifysgol Bangor
Mae’r Athro Rippeth yn gefnforegwr arsylwadol. Mae ei waith wedi cynnwys datblygu technegau newydd i fesur cynnwrf dyfrol, a defnyddio mesuriadau cynnwrf i nodi, datrys a mesur prosesau ffisegol allweddol sy’n ysgogi cymysgu yn y cefnfor. Mewn ymchwili seiliedig ar broses o’r gorffennol canolbwyntiwyd ar, er enghraifft, sut mae cymysgu gan y llanw a’r gwynt yn effeithio ar y modd y mae rhew ym môr yr Arctig yn toddi. Ffocws ymchwil presennol yr Athro Rippeth yw effeithiau amgylcheddol posibl y genhedlaeth nesaf o ffermydd gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd a Môr y Gogledd.