Dr Wendy Ewart

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: polisi a chyllid, Strategaeth ymchwil

Ymgynghorydd Annibynnol mewn Gwyddoniaeth Fiofeddygol

Datblygodd a chyflwynodd Dr Ewart strategaethau ymchwil newydd a pharhaol ar gyfer sefydliadau ymchwil allweddol yn y DU, y Cyngor Ymchwil Feddygol a Chyfadran Feddygaeth Coleg Imperial. Roedd gweithio ar lefel y Bwrdd yn golygu ei bod wedi dylanwadu ar gyfeiriad twf ac arweinyddiaeth UK Biobank a Sefydliad Francis Crick yn nyddiau cynnar eu datblygiad. Helpodd y gwaith hwn i gryfhau sylfaen wyddonol y DU. Yn ogystal â hyn, cyflawnodd weledigaeth Ymddiriedolaeth Wellcome o greu sefydliad ymchwil yn Affrica i fynd i’r afael â phandemig HIV/Aids, a sicrhau dros ddeng mlynedd o gyllid Ymddiriedolaeth Wellcome ar gyfer gwyddor poblogaeth.

 

yn ôl i'r brig