Professor William Jones
FREng CEng FIMechE FLSW
Athro yn yr Adran Peirianneg Fecanyddol, Coleg Imperial Llundain
Mae’r Athro Jones yn enwog am ei rôl arweiniol wrth ddatblygu a gwerthuso cywirdeb modelau tyrfedd a hylosgi ar gyfer hylosgwyr tyrbinau nwy. Mae wedi datblygu’r dechnoleg i’r fath raddau fel mai cyfrifiannu yw’r dull a ddefnyddir amlaf wrth ddylunio hylosgwyr yn y diwydiant drwy’r byd.