Yr Athro Yacine Rezgui

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Dinasoedd a chymunedau clyfar

Athro ac Arweinydd Canolfan Ymchwil Cudd-wybodaeth Drefol; Gyd-Sylfaenydd a Dirprwy Brif Swyddog Gwyddonol, Prifysgol Caerdydd ac Optimise-AI

Mae’r Athro Rezgui yn arbenigo mewn rheoli perfformiad amgylcheddau trefol (adeiladau, seilwaith a dinasoedd), gan gwmpasu effeithlonrwydd ynni ac asesu cynaliadwyedd cylch oes. Mae ganddo dros 300 o gyhoeddiadau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid, gan gynnwys Proceedings of the Royal Society A ac IEEE Transactions, ac fe gafodd wahoddiad i gyfrannu i Nature ar flaenoriaethau gwyddoniaeth y DU. Ceir patent wedi’i ddyfarnu yn yr UD yn sail i ‘Optimise-AI’, sef cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd sydd wedi ennill gwobrau, ac a sylfaenwyd ganddo ar y cyd ag eraill. Mae hyn yn creu arbedion ynni a charbon mesuradwy i gleientiaid fel Network Rail, ScotRail a Maes Awyr Luton.

 

yn ôl i'r brig