Yn bersonol

Cystadleuaeth Traethawd Tri Munud | Eisteddfod 2026

6 Awst, 2026:

3:30 pm -

Ymunwch â Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Eisteddfod eleni i wylio Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar o bob cwr o Gymru’n cystadlu mewn Cystadleuaeth Traethawd Tri Munud.

Mae’r gystadleuaeth yn herio ymchwilwyr i esbonio eu hymchwil i’r cyhoedd yn Gymraeg mewn llai na thri munud, gan ddefnyddio dim ond un sleid. Cyfle gwych i ddysgu rhagor am y gwaith ymchwil cyffrous sy’n cael ei arwain gan ddawn y dyfodol yng Nghymru.