Mae llesiant diwylliannol yn allweddol i lwyddiant ein cenedl – mae ymchwilwyr yn gwybod hyn. Serch hynny, mewn oes o gamwybodaeth, twyllwybodaeth, a siambrau adlais y cyfryngau, sut allwn ddatblygu a chynnal tirwedd ddiwylliannol gyfoethog Cymru?
Mae CDdC a CCDC (Cynghrair Celfyddydau & Dyniaethau Cymru) yn dod ynghyd i ofyn i gynrychiolwyr pleidiau sy’n ymgeisio yn Etholiadau’r Senedd 2026 am eu cynlluniau ar gyfer cefnogi ymchwil i ddatblygiad diwylliannol Cymru.
Os ydych yn frwd dros lesiant diwylliannol, dyfodol gwybodaeth, neu’n chwilfrydig i glywed rhagor gan rai sy’n ymgeisio i ddod yn Aelodau o’r Senedd, cofrestrwch i ymuno â ni ar-lein ddydd Mercher 22ain o Ebrill, 5-7pm. Caiff mynychwyr sydd wedi cofrestru gyfle i awgrymu cwestiwn!
Rhagor o fanylion i’w cadarnhau’n fuan.