Yn bersonol

Rhwydwaith Menywod CDdC

29 Meh, 2026:

2:00 pm -

29 Meh, 2026:

4:00 pm

Fe’ch gwahoddir i ymuno â ni yn y digwyddiad Rhwydwaith Menywod CDdC hwn a gynhyrchwyd ar y cyd â Rhwydwaith Menywod mewn Ymchwil Prifysgol Aberystwyth.

Hoffem gynnig y cyfle i fenywod a’u cynghreiriaid o’n Cymrodoriaeth ddod ynghyd am gymorth cymheiriaid a rhwydweithio. Yn ogystal â hyn, hoffem estyn gwahoddiad i unrhyw fenyw sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy am Gymrodoriaeth a dod yn Gymrawd.

Mae hwn yn ddigwyddiad agored ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae croeso i bawb. Bydd cyfle i gwrdd â phobl eraill ynghyd â thrafodaeth banel fer i drafod enwebiadau, rôl Cymrawd a’r gwaith sy’n mynd rhagddo gennym i wella ein hamrywiaeth. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Gallwch rannu’r ddolen hon ag unrhyw un yr ydych chi’n tybio a all fod â diddordeb mewn ymuno â ni.