Yn bersonol

Pam fod Cymru werth ei hastudio?

6 Awst, 2025:

11:30 am -

6 Awst, 2025:

12:30 pm

Trefnwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Pabell Prifysgol Wrecsam.

Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens

Yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth 

Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd 

Dr Katharine Young, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ymchwil am Gymru, i Gymru yw Astudiaethau Cymreig. Mae’n faes rhyngddisgyblaethol ac yn cwmpasu’r holl adrannau ymchwil – ein hiaith, ein diwylliant, ein daearyddiaeth, ein pobl, a mwy.  

Sut y gall Astudiaethau Cymreig wasanaethu Cymru orau? Pam ei bod mor bwysig ein bod yn astudio Cymru? Pa fath o ymchwil sydd wedi’i gynnwys mewn Astudiaethau Cymreig? A oes yna le i Astudiaethau Cymreig y tu allan i Gymru? Pa gwestiynau ymchwil yw’r rhai mwyaf dybryd mewn Astudiaethau Cymreig heddiw? Bydd y panel hwn yn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn a mwy, gan dynnu ar ystod o feysydd ysgolheictod.  

Bydd y sesiwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i’r gynulleidfa gymryd rhan yn y drafodaeth ar gyfer llywio dyfodol y maes, ac i ymgysylltu â’r fenter Astudiaethau Cymreig wrth symud ymlaen.

Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael am y sesiwn yma.