Ar-lein

Sesiwn Cymrodyr y Dyfodol: Darganfyddwch fwy am Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru

5 Meh, 2025:

3:30 pm -

5 Meh, 2025:

4:30 pm

Mae’r sesiwn gwybodaeth yma i unrhyw un sydd eisiau ddysgu rhagor am Academi Genedlaethol Cymru a’r hyn y mae bod yn Gymrawd yn ei olygu. Bydd yr Athro Robert Beynon, sy’n aelod o dîm Weithredu CDdC, ynghyd â Chymrodyr eraill sy’n ymwneud â’r broses graffu a staff y Gymdeithas yn rhoi trosolwg cyn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Darllenwch fwy am Gymrodoriaeth yma.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y digwyddiad yma, e-bostiwch ni ar events@lsw.wales.ac.uk, os gwelwch yn dda.

Nodwch, bydd y sesiwn yma yn cael ei chynnal yn Saesneg. Rydym ni’n cynnal sesiwn Cymrodyr y Dyfodol yn yr iaith Gymraeg ar Fehefin 27, 11:00-12:00. Mwy o wybodaeth yma.