Yn bersonol

Lansiad astudiaeth: Quic DNA Max o Ganser â Tharddiad Anhysbys (CUP)

15 Hyd, 2026:

Rydym yn falch o fod yn cefnogi (trwy hyrwyddo) lansiad yr astudiaeth Quic DNA Max o Ganser â Tharddiad Anhysbys (CUP) Dr Sonali Dasgupta, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yw’r Prif Ymchwilydd.

Mwy am yr astudiaeth:

‘Mae Canser â Tharddiad Anhysbys (CUP) yn ganser heterogenaidd a hynod ymosodol, sy’n cyfrif am oddeutu 5% o’r holl achosion o ddiagnosis canser newydd a’r chweched prif achos o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chanser.


Ers 2023, Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gynnig cyfresu cenhedlaeth nesaf ar sail meinwe (NGS) ar gyfer CUP fel rhan safonol o’r gofal. Fodd bynnag, mae data byd go iawn yn dangos mai dim ond tua 50% o gleifion sy’n gallu cael mynediad at y prawf hwn oherwydd ffactorau megis statws perfformiad isel, safleoedd metastatig anhygyrch, ansawdd meinwe annigonol a diffyg meinwe addas yn dilyn ymchwiliadau diagnostig helaeth.

I fynd i’r afael â’r angen hwn sydd heb ei fodloni, bydd yr astudiaeth QuicDNA Max-CUP yn cyflwyno biopsi hylif DNA tiwmor cylchynol (ctDNA) i’r llwybr diagnostig cyn y biopsi meinwe. Nod y cynllun arloesol hwn yng Nghymru yw cyflawni canlyniadau genomig cyflymach, cefnogi penderfyniadau triniaeth cynharach a gwella mynediad at therapïau canser wedi’u personoli.’


Bydd y cyfarfod addysgol hwn yn dod â rhanddeiliaid amlddisgyblaethol ynghyd ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o brotocol, meini prawf cymhwysedd, llwybrau gweithredol a chyfrifoldebau proffesiynol yr astudiaeth, gan sicrhau bod QuicDNA Max-CUP yn cael ei gyflwyno’n llwyddiannus ac yn gyson ar draws pob un o’r saith Bwrdd Iechyd.

Bydd y digwyddiad lansio yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar y 15fed o Hydref. Os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â events@lsw.wales.ac.uk.