Ar-lein

‘What kind of University for what kind of future?

1 Mai, 2024:

5:00 pm -

1 Mai, 2024:

7:00 pm

Hoffai’r Campaign for Science and Engineering (CaSE) a Chymdeithas Ddysgedig Cymru eich gwahodd i ddarlith wyneb yn wyneb yng nghanol Caerdydd gan yr Athro Wendy Larner ar ddydd Mercher 1 Mai 2024, o’r enw – ‘What kind of University for what kind of future?’. 

Dechreuodd yr Athro Larner yn ei swydd fel Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ym mis Medi 2023.  Cyn hynny, roedd hi’n Profost yn Te Herenga Waka-Prifysgol Victoria Wellington, ac yn Llywydd Royal Society Te Apārangi, Seland Newydd. Bydd y ddarlith hon yn gyfle gwych i glywed gweledigaeth yr Athro Larner ar gyfer prifysgolion yng Nghymru, a thu hwnt, ac i ymuno yn y drafodaeth yn ystod cwestiynau a thros ddiodydd.