Yn bersonol

Yr Athro Siwan Davies: Edrych yn ôl ac i’r dyfodol ar yr argyfwng hinsawdd

6 Awst, 2026:

11:30 am -

6 Awst, 2026:

12:30 am

11:30, Dydd Iau y 6ed, Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Gan dynnu ar ei harbenigedd fel daearyddwr ffisegol sy’n astudio newidiadau cyflym yn yr hinsawdd yn hanes y Ddaear, bydd yr Athro Siwan Davies yn dangos sut mae tystiolaeth o newidiadau hinsawdd yn y gorffennol yn ein helpu ni i ddeall graddfa a chyflymder y newid sy’n digwydd heddiw.

Fel Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, mae’r Athro Davies yn rhan o gymuned o arbenigwyr sy’n cyfrannu at ddealltwriaeth gyhoeddus o’r heriau sylweddol sy’n wynebu Cymru a’r byd, yn cynnwys yr argyfwng hinsawdd a’r gwaith o ddatblygu datrysiadau cynaliadwy.

Bydd y sgwrs yn cynnig cyfle i’r gynulleidfa ddeall y wyddoniaeth sydd wrth wraidd yr argyfwng hinsawdd, yn ogystal ag ystyried arwyddocâd hynny i Gymru, i gymunedau lleol, ac i genedlaethau’r dyfodol.

Cyflwynir y ddarlith hon ar y cyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Phentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod.