An illustration of a medal and a trophy.

Cwestiynau Cyffredin am Fedalau a Gwobrau

Ceir hyd i’r holl wybodaeth am ein proses ar gyfer Medalau a Gwobrau yn y dogfennau ar-lein.  Rydym wedi tynnu sylw at rai agweddau yma a allai fod o ddiddordeb.

Pwy a all enwebu rhywun?

‘Gall unrhyw un dros 18 oed gyflwyno enwebiad. Ar wahân i hynny, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy a all gyflwyno enwebiad.’  Gall sefydliadau hefyd ddewis cyflwyno enwebiad.

Pwy a all gael ei enwebu?

Unigolion neu dimau sy’n gweithio ym maes ymchwil neu arloesi. Gall hyn fod ar draws ystod eang o sefydliadau gan gynnwys diwydiant, y sector elusennol, y byd academaidd a’r celfyddydau, ymhlith eraill. Ceir meini prawf gwahanol ar gyfer pob medal neu wobr, a gallwch weld y rhain ar ein gwefan

Sut mae dewis pa fedal neu wobr sydd yn fwyaf priodol?

Mae’r meysydd a’r disgyblaethau a gydnabyddir yng nghategorïau’r medalau a’r gwobrau wedi’u dylunio i sicrhau bod medal/gwobr ar gael sy’n addas i bob darpar ymgeisydd. Gall enwebwyr ddewis y fedal neu’r wobr y maent yn teimlo sy’n cynrychioli gwaith eu henwebai orau.  Rhoddir ystyriaeth deg a chyfartal i bob enwebiad yn erbyn meini prawf y categori a ddewiswyd.

    • Mae’r gwobrau Effaith ar agor i BAWB, ac ar gyfer pob gwobr nodir ai gwobr ar gyfer unigolyn neu dîm sydd dan sylw.
    • Mae’r medalau Gyrfa Sefydledig ar gyfer unigolion ar ganol ac yn ddiweddarach yn eu gyrfa; mae’r rheoliadau’n rhoi diffiniad i gefnogi hyn.
    • Mae’r medalau Gyrfa Gynnar ar gyfer y rhai sydd ar ddechrau eu gyrfa; mae’r rheoliadau’n rhoi diffiniad i gefnogi hyn, gan gynnwys eglurhad o’r modd y mae hyn yn berthnasol i rai sydd wedi cael seibiant o’u gyrfa ac ati.
Sut mae enwebu?

Ewch i’r dudalen ‘Medalau a Gwobrau’ ar ein gwefan – mae’r holl ddogfennau angenrheidiol i’w cael yno.  Bydd angen ichi gyflwyno ffurflen enwebu fer ar-lein.  I gefnogi hyn:

    1. anfonwch ddolen at y sawl sy’n cael ei enwebu, er mwyn iddo gytuno i rannu ei wybodaeth; a
    2. gofynnwch i un person lunio geirda.
A allaf gyflwyno enwebiad yn y Gymraeg? Gellir cwblhau unrhyw elfen o’r broses enwebu hon yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Llenwch y ffurflenni yn eich dewis iaith.  Gellir cyflwyno enwebiad yn y naill iaith neu’r llall, a gall y ffurflenni atodol (e.e. y Geirda) fod mewn iaith arall.

A fydd y sawl sy’n cael ei enwebu yn cael gwybod am ei enwebiad?

Bydd. Er mwyn sicrhau tryloywder a bod eich enwebai yn cydsynio i rannu ei wybodaeth, gofynnwn iddo lenwi ffurflen fer i gofnodi hyn.  Yn ogystal â hynny, caiff gyfle i gwblhau cwestiwn ‘Effaith ar Yrfa’. Cwestiwn dewisol yw hwn i dynnu sylw at unrhyw ffactorau sydd wedi effeithio neu amharu ar ei yrfa, ac y mae’n dymuno eu cyfeirio er ystyriaeth y Pwyllgor Craffu ar Fedalau a Gwobrau.

Pwy sy’n penderfynu ar enillydd pob medal neu wobr?

Caiff pob enwebiad ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Medalau a Gwobrau a gynullir i’r diben hwnnw.  Cyhoeddir aelodaeth y pwyllgor hwn ar ein gwefan cyn gynted ag y bydd hynny wedi’i gadarnhau.  Bydd y pwyllgor yn ystyried pob enwebiad yn ei dro, gyda chefnogaeth Aelod Annibynnol i sicrhau cysondeb a thegwch o ran y dull gweithredu.  Bydd yn defnyddio matrics sgorio (sydd ar gael yn y dogfennau ein gwefan) i gofnodi eu penderfyniadau a dod i gasgliad.

Beth a ddisgwylir gan yr enillwyr?

Bydd yr holl enillwyr (a’u henwebwyr) yn cael gwybod yn fuan ar ôl i’r pwyllgorau gyfarfod.  Byddant yn cael gwahoddiad i’r Seremoni Medalau a Gwobrau a gynhelir fel arfer yng Nghaerdydd yn yr hydref.  Cynigir treuliau rhesymol i alluogi presenoldeb yn y Seremoni, lle cyflwynir gwobr neu fedal i’r enillwyr.

Beth mae’r enillwyr yn ei dderbyn?

Bydd enillwyr Gwobr Effaith yn derbyn tlws wedi’i ddylunio’n arbennig.

Bydd enillwyr y Fedal Gyrfa Sefydledig yn derbyn medal wedi’i dylunio’n arbennig.

Bydd enillwyr Y Fedal Gyrfa Gynnar yn derbyn medal wedi’i dylunio’n arbennig a gwobr ariannol.

Os nad ydych wedi cael hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn ein dogfennau, cysylltwch â ni a byddwn yn fwy na pharod i’ch helpu.